Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid
1 Hydref 2013, 12.15 - 13.15, Ystafell Gynadledda 24
Yn bresennol:
Darren Millar AC
Catherine Evans, Swyddfa Darren Millar AC
Jason Hart – Cadetiaid Ifanc SO2 – HQ 160X
Brigadydd Philip Napier - HQ 160X
Comodor Jamie Miller – Comander Rhanbarthol Llyngesol, Cymru a Gorllewin Lloegr
Nick Beard - Prif Weithredwr, Cymdeithas Cadetiaid y Lluoedd Brenhinol yng Nghymru
Guy Clarke – Cadeirydd, Cymdeithas Cadetiaid y Lluoedd Brenhinol yng Nghymru
Peter Evans - Y Lleng Brydeinig Frenhinol
John Skipper - Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Albie Fox - Swyddog Cysylltiadau Cymunedol Cymru y Llu Awyr Brenhinol
Mark Isherwood AC
Mohammad Asghar AC
COFNODION
1. Penodi Cadeirydd ac Ysgrifennydd
a) Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro, Darren Millar AC, bawb a chyflwyno'r ymddiheuriadau.
b) Cytunwyd yn unfryd i benodi Darren Millar AC yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, a Catherine Evans yn Ysgrifennydd.
2. Y Cynllun Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol - Brigadydd Philip Napier
a) Dosbarthodd y Brigadydd Napier y papur “Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Gweledigaeth ar gyfer strategaeth gwaith ieuenctid genedlaethol newydd i Gymru 2013–2018'” gyda'r grŵp.
b) Ar ôl trafodaeth, cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu i ofyn am gyfarfod rhwng y Gweinidog Llywodraeth Leol, y Gweinidog Addysg a'r cynrychiolwyr perthnasol o'r lluoedd arfog i ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael i luoedd cadét gyfrannu at ganlyniadau'r cynllun.
3. Gwybodaeth am Hedfan yn Isel - Arweinydd Sgwadron Albie Fox
a) Cafwyd cyflwyniad power point gan yr Arweinydd Sgwadron Albie Fox ac fe ddosbarthwyd dogfennau gyda gwybodaeth am y defnydd o awyrennau milwrol sy'n hedfan yn isel yng Nghymru.
b) Ar ôl trafodaeth, cytunwyd y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol yn dosbarthu'r dogfennau am awyrennau sy'n hedfan yn isel i holl Aelodau'r Cynulliad ac aelodau allanol y grŵp i'w helpu wrth gyfathrebu ag eraill.
4. Gofal iechyd a chyn-filwyr: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Cynghorau Iechyd Cymuned - Is-gyrnol John Skipper
a) Cafwyd trosolwg o'r ddarpariaeth gofal iechyd i'r gymuned lluoedd arfog gan yr Is-gyrnol John Skipper, yng nghyd-destun ei waith blaenorol gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'i rôl newydd gyda'r Cynghorau Iechyd Cymuned
b) Ar ôl trafodaeth, cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi pryderon ynghylch capasiti'r Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-Filwyr Cymru Gyfan a'r angen i sicrhau bod ganddo adnoddau digonol.
5. Unrhyw fater arall
a) Trafodwyd y cynnydd o ran awdurdodau lleol yng Nghymru yn datblygu Cynlluniau Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Cytunwyd i ddosbarthu rhestr o'r pencampwyr lluoedd arfog o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.
b) Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ynghylch y cynlluniau ar gyfer y digwyddiadau i goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
c) Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn i gynrychiolydd addas ddod i gyfarfod i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu Cerdyn Cyn-filwyr.
d) Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr holl grwpiau plaid yn y Cynulliad i ofyn iddynt enwebu cynrychiolydd i gymryd rhan yng ngweithgareddau lluoedd arfog y gwrthbleidiau.
Camau i’w cymryd
1. Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu i ofyn am gyfarfod rhwng y Gweinidog Llywodraeth Leol, y Gweinidog Addysg a'r cynrychiolwyr perthnasol o'r lluoedd arfog i ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael i luoedd cadét gyfrannu at ganlyniadau'r cynllun.
2. Cytunwyd y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol yn dosbarthu'r dogfennau am awyrennau sy'n hedfan yn isel i holl Aelodau'r Cynulliad ac aelodau allanol y grŵp i'w helpu wrth gyfathrebu ag eraill.
3. Ar ôl trafodaeth, cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi pryderon ynghylch capasiti'r Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-Filwyr Cymru Gyfan a'r angen i sicrhau bod ganddo adnoddau digonol.
4. Cytunwyd i ddosbarthu rhestr o'r pencampwyr lluoedd arfog mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.
5. Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ynghylch y cynlluniau ar gyfer y digwyddiadau i goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
6. Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn i gynrychiolydd addas ddod i gyfarfod i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu Cerdyn Cyn-filwyr.
7. Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr holl grwpiau plaid yn y Cynulliad i ofyn iddynt enwebu cynrychiolydd i gymryd rhan yng ngweithgareddau lluoedd arfog y gwrthbleidiau.